Global Learning Programme Wales

Hawl Menywod i Bleidleisio

Ym mis Chwefror 2018 mae canmlwyddiant menywod yn cael yr hawl i bleidleisio yn y DU. Yn yr un flwyddyn cafodd menywod yn Awstria, yr Almaen, Gwlad Pwyl a Rwsia y bleidlais hefyd, er eu bod nhw ymhell y tu ôl i Seland Newydd (1893) ac Awstralia (1902: menywod gwyn yn unig). Ymchwiliwch i'r garreg filltir ddemocrataidd bwysig hon gyda'r syniadau hyn am adnoddau a gweithgaredd hanes gan RhDB-E Cymru.

Adnoddau Dwyieithog

Hwb: 

Aderyn mewn Cawell: bywyd Margaret Thomas, Bonesig y Rhondda, ymgyrchydd blaenllaw

Casgliad y Werin Cymru: casgliad bach o ddelweddau'r swffragetiaid https://www.peoplescollection.wales/collections/378054

Amgueddfa Genedlaethol Cymru: Gwefan hanes menywod: erthyglau nodwedd cefndirol am fywydau menywod Cymru yn nechrau'r 20fed ganrifhttps://museum.wales/welsh_womens_history/

Adnoddau Saesneg

Wales online: erthygl am y swffragetiaid yng Nghymru  http://www.walesonline.co.uk/lifestyle/nostalgia/welsh-women-who-took-long-12577954

BBC Wales: erthygl am y swffragetiaid yng Nghymru http://www.bbc.co.uk/wales/history/sites/themes/society/women_politics.shtml

Y Gymdeithas Hanesyddol/Historical Association (HA): pecyn addysg i fyfyrwyr 12 i 19 oed ‘Suffragette Social Changers’ o The National Schools Partnership ac mae ‘Into Film with Pathe’ yn dathlu rhyddhau'r ffilm Suffragette: https://www.history.org.uk/ha-news/news/2549/suffragette-resources

The Vote 100: Gwefan senedd y DU gydag amrywiaeth o adnoddau i ddisgyblion hŷn, gan gynnwys dogfennau, delweddau ac astudiaethau achos https://www.parliament.uk/about/living-heritage/transformingsociety/electionsvoting/vote-100/vote-100-project/vote-100-project-info/

Archifau Cenedlaethol/National Archives: casgliad o adnoddau addysgu am y swffragetiaid gan gynnwys ffynonellau cynradd, gweithgareddau ac adnoddau addysgu http://suffrageandthemedia.org/source/suffrage-teaching-resources-national-archives/

People’s history museum: Deeds Not Words; The Fight for Women's Suffrage 1900-1918: Llawlyfr i Athrawon gyda gweithgareddau http://www.phm.org.uk/wp-content/uploads/2011/09/Teacher-Handbook.pdf

Sefydliad y Merched: Pecyn adnoddau’r 100 mlwyddiant – mae'n cynnwys llinell amser a data am fenywod mewn bywyd cyhoeddus https://www.thewi.org.uk/__data/assets/pdf_file/0009/268038/100-years-toolkit-low-res.pdf

Cymdeithas Fawcett: Mae Cymdeithas Fawcett wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau menywod am 150 mlynedd. Mae'n cynnwys llinell amser, ffynonellau, digwyddiadau https://www.fawcettsociety.org.uk/our-history

Arddangosfa Museum of London: mae'n cynnwys rhai delweddau ar-lein https://www.museumoflondon.org.uk/museum-london/whats-on/votes-women-museum-london

LSE: casgliad y bleidlais i fenywod o ddeunyddiau o ffynonellau cynradd http://www.lse.ac.uk/library/collections/collection-highlights/womens-suffrage

Women stats: Ffeithluniau a mapiau'r byd yn dangos 36 patrwm o anghydraddoldeb rhywedd, gan gynnwys sut mae menywod wedi'u cynrychioli mewn seneddau ledled y byd http://www.womanstats.org/newmapspage.html

Hanes menywod a'r bleidlais yn y DU

Ar 6 Chwefror 1918 rhoddodd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl y bleidlais i 5.6 miliwn o ddynion ac 8.4 miliwn o fenywod yn y DU. Am y tro cyntaf, gallai menywod dros 30 oed bleidleisio mewn etholiadau Seneddol, yn ogystal â phob dyn dros 21 oed. Cymerodd hi hyd 1928 i fenywod dros 21 oed gael y bleidlais.

Pam cymerodd hi gymaint o amser i fenywod gael y bleidlais? Yn rhyfedd ddigon, cyn 1832, roedd nifer bach iawn o fenywod oedd yn berchen ar eiddo yn cael pleidleisio mewn etholiadau. Doedd dim llawer o ddynion yn cael pleidleisio chwaith. Yn eironig, roedd Deddf Diwygio 1832 yn cyfeirio'n benodol at roi'r hawl i bleidleisio i ddynion o oedolion. Roedd hyn yn golygu nad oedd gan yr ychydig bach hynny o fenywod oedd yn cael pleidleisio hawl i wneud hynny bellach. Daeth gweddill y 19eg ganrif yn frwydr dros y bleidlais. Yn raddol cafodd mwy o ddynion yr hawl i bleidleisio, ond cymerodd hi hyd 1928 i fenywod gael y bleidlais ar yr un sail â dynion. Pam cymerodd hi gymaint o amser?

Roedd y rhan fwyaf o bobl Oes Victoria yn credu mewn ‘cylchoedd gwahanol’ i ddynion a menywod; roedd menywod ar wahân, nid yn israddol. Roedden nhw'n meddwl bod dynion yn addas i ryfela, byd busnes a gwleidyddiaeth; roedd menywod yn addas i fagu plant, creu cartref a hobïau tawel fel peintio, gwnïo ac ati. Wrth gwrs doedd hyn ddim yn wir i lawer, menywod dosbarth gweithiol yn bennaf, oedd yn gorfod gweithio i ennill arian a gofalu am y cartref. Roedd dynion i fod i warchod menywod, felly roedd menywod a'u heiddo'n ‘berchen’ i'w tad tan iddyn nhw briodi, ac yna'n berchen i'w gŵr. Roedd rhai menywod yn meddwl mai cael y bleidlais oedd y ffordd orau o newid y syniad hwn, a rhoi'r hawl i fenywod redeg eu bywydau eu hunain.

Nid dynion yn unig oedd yn gwrthwynebu'r syniad fod menywod yn cael y bleidlais. Roedd rhai menywod enwog, fel y Frenhines Victoria a Florence Nightingale, yn bendant na ddylai menywod bleidleisio. Gweithiodd eraill i gael newid. Ffurfiodd y Swffragwyr yn gyntaf ar ôl i Ddeddf Diwygio 1867 wrthod rhoi'r bleidlais i fenywod. Treulion nhw'r 60 mlynedd nesaf yn protestio'n heddychlon yn erbyn y gyfraith. Cafodd eraill, y Swffragetiaid, lond bol oherwydd bod pethau'n symud mor araf ac aethon nhw'n llawer mwy ymosodol. Torron nhw ffenestri, llosgi blychau llythyrau, cadwyno eu hunain wrth reiliau, a mynd i'r carchar. Bu farw Emily Davison mewn protest yn rasys ceffylau Derby. Mae haneswyr yn dadlau ynghylch pa mor effeithiol oedd y gweithredu hwn: mae rhai'n dweud bod pobl wedi gorfod cymryd sylw, mae eraill yn dweud ei fod wedi gelyniaethu cefnogwyr.

Roedd yr ymgyrch dros y bleidlais i fenywod yn gryf yng Nghymru. Roedd yn cynnwys Cynghrair Rhyddid Menywod, a sefydlwyd yn 1909 yn Abertawe. Buon nhwn ymgyrchu’n heddychlon, er enghraifft drwy gynnal cyfarfodydd cyhoeddus. Yn 1913 gorymdeithiodd grwpiau o fenywod o Ogledd a De Cymru i ymuno â gorymdaith fawr dros y bleidlais yn Llundain. Roedd eraill yn fwy milwriaethus: cafodd Margaret Thomas, un o swffragetiaid blaenllaw Cymru, ei charcharu am ffrwydro blwch llythyrau yng Nghasnewydd.

Mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn cytuno mai'r rhan a chwaraeodd menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a newidiodd farn pobl fwyaf. Gweithiodd menywod mewn ffatrïoedd yn gwneud ffrwydron, yn gyrru ambiwlansys, ar y tir: yn llenwi'r bylchau a oedd wedi'u gadael gan ddynion yn y lluoedd arfog. Beth bynnag oedd y rheswm, yn 1918 cafodd menywod dros 30 y bleidlais.

Constance Markievicz oedd y fenyw gyntaf i gael ei ethol i Dŷ'r Cyffredin, yn etholiad cyffredinol 1918. Ond chymerodd hi ddim o'i sedd fel AS oherwydd ei bod hi'n aelod o Sinn Fein. Nancy Astor oedd y fenyw gyntaf i gymryd ei sedd ar ôl isetholiad ym mis Rhagfyr 1919. Cafodd hi ei hethol fel aelod Ceidwadol i etholaeth Plymouth Sutton ar ôl i'w gŵr, Waldorf Astor, y cyn-AS, gael ei wneud yn Aelod o Dŷ'r Arglwyddi. Ers hynny mae nifer y menywod yn Senedd Prydain wedi cynyddu. Yn 2017 roedd 208 (allan o 650) AS benywaidd.

Pethau i feddwl amdanyn nhw:

Ymchwiliwch: Pa Ddeddfau Seneddol ers 1918 sydd wedi cynyddu hawliau menywod?

Geirfa

Hawl i bleidleisio: yr hawl i bleidleisio mewn etholiad lleol neu genedlaethol.

Adnodd wedi'i baratoi gan Y Gymdeithas Ddaearyddol/Geographical Association a'r Gymdeithas Hanesyddol /Historical Association ar gyfer RhDB-E Cymru.